Mae Democratiaid Rhyddfrydol Ceredigion wedi galw ar Lywodraeth y DU i helpu busnesau lleol i gystadlu â chwmnïau mawr y we yn arwain at y Nadolig.
Mae'r blaid yn ofni bydd siopau lleol yn parhau i'w chael hi'n anodd ar ôl lleihad yn y niferoedd yn siopa ar y stryd fawr yn ystod y pandemig. Maent wedi cynnig cynllun newydd yn debyg i'r un Eat Out to Help Out a fu'n helpu bwytai lleol.
Er mwyn annog pobl i gefnogi eu strydoedd mawr tra'n siopa o adref, mae'r Dem Rhydd eisiau i Lywodraeth y DU dalu costau postio. Mae Llefarydd y Trysorlys y Dem Rhydd, Christine Jardine, wedi ysgrifennu at y Canghellor Rishi Sunak yn annog arno i fabwysiadu'r syniad.
Mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) wedi croesawu'r syniad i helpu busnesau i oroesi. Medd Mike Cherry, Cadeirydd FSB yn y DU: "Dyma yw'r fath o syniad creadigol sy'n gallu rhoi hwb i fusnesau bach a rhoi chwarae teg iddynt.”
Meddai Cadan ap Tomos, Ymgeisydd Senedd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yng Ngheredigion:
“Mae busnesau bach ar draws Ceredigion wedi bod yn becso am fisoedd am sut i gadw fynd. Mae'r Nadolig yn adeg enillfawr i nifer ohonynt ond mae'r cyfyngiadau Coronafeirws yn golygu bod canol ein trefi'n dawel iawn.
“Pan mae pobl yn gwneud siopa 'Dolig ar-lein, mae cynigion postio am ddim gan gwmnïau mawr ar-lein yn ddeniadol iawn. Mae hynny'n anoddach fyth i fusnesau bach Ceredigion gystadlu, gan beryglu dyfodol ein strydoedd mawr a'n heconomi leol.
"Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gamu fewn a sicrhau amodau teg, er mwyn amddiffyn yr ystod fywiog o fusnesau bach sy'n asgwrn cefn i economi leol Ceredigion.”
Ychwanegodd Jane Dodds, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru:
“Dros yr haf, lansiodd y Canghellor ymgyrch i gefnogi'r sector lletygarwch. Mae'n nawr rhaid i Lywodraeth y DU fynd ymhellach i gefnogi busnesau bach dros gyfnod y Nadolig.
“Rydym ni eisiau i'r Canghellor dalu costau postio ar bryniadau ar-lein oddi wrth siopau bach annibynnol i'w gwneud yn opsiwn mwy cystadleuol i bobl sy'n edrych am anrhegion Nadolig ac annog i bobl siopa o'u cartrefi.”
Medd Mike Cherry, Cadeirydd y DU ar gyfer y Ffederasiwn Busnesau Bach:
"Dyma yw'r fath o syniad creadigol sy'n gallu rhoi hwb i fusnesau bach a rhoi chwarae teg iddynt.
"Mae'n rhaid i ni wneud pob dim y gallwn i helpu ein siopau bach, annibynnol.
“Dyma fydd yr adeg Nadolig pwysicaf erioed ar gyfer ein heconomi, a gellir fod yn fater llwyddo-neu-fethu i rai o'n busnesau bach. Dyna pam mae'n rhaid i ni roi pob gewyn ar waith i'w helpu i oroesi hyd ddiwedd 2020 ac ymhellach.”