Mae mannau chwarae Aberystwyth wedi bod ar gau ers y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth, gan adael ein plant heb unrhywle diogel i chwarae yn y dref.
Mae parciau eraill yng Ngheredigion ac ar draws Cymru wedi ail-agor yn ddiogel, ond hyd yn hyn dyw Cyngor Tref Aberystwyth heb ddilyn yr esiampl.
Mae rhieni a phlant lleol yn grac, ac mae'r Comisiynydd Plant wedi awgrymu dylai'r Cyngor ystyried hawliau plant i chwarae.
Mae Cadan ap Tomos a Democratiaid Rhyddfrydol Aberystwyth yn ymgyrchu i ail-agor parciau ein tref. Os ydych chi'n cytuno, plîs arwyddwch ein deiseb.
Rydw i/rydym ni, yr isod, yn galw ar Gyngor Tref Aberystwyth i ail-agor parciau ein tref er mwyn rhoi man diogel i'n plant i chwarae.