Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am “uwchgynhadledd pedair gwlad” i ystyried triniaeth unedig i gadw aduniadau teuluol yn ddiogel dros wyliau'r Nadolig.
Mewn llythyr ar y cyd i bedair llywodraeth y DU, mae arweinwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yr Alban a Lloegr, ynghyd â Dirpwy Arweinydd y blaid Alliance yng Ngogledd Iwerddon, wedi rhybuddio bod "natur gysylltiol bywyd yn y Deyrnas Unedig yn golygu na all unrhyw un lywodraeth greu canllawiau ar gyfer y gwyliau ar ben eu hunain."
Er mwyn gadael i deithio ddigwydd mewn modd diogel, mae gwleidyddion y Democratiaid Rhyddfrydol ac Alliance yn credu dylid "uwchgynhadledd pedair gwlad" gytuno:
- Canllawiau ar y cyd ar gyfer aduniadau teuluol
- Triniaeth gyffredin i ddychwelyd myfyrwyr a phrofion i'r rheiny sydd heb symptomau
- Mesurau cydweithredol i gynyddu trafnidiaeth dros gyfnod y Nadolig
Meddai Cadan ap Tomos, ymgeisydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru i'r Senedd yng Ngheredigion:
"Bydd pobl ar draws Ceredigion yn gobeithio'n arw bod modd iddynt groesawu aelodau eu teulu 'nôl adref ar gyfer y Nadolig, petai hynny o weddill Cymru neu ymhellach i ffwrdd.
"Mae'n rhaid i lywodraethau ymhob rhan y DU weithio gyda'i gilydd i alluogi teuluoedd i aduno mewn modd diogel dros y Nadolig, ar ôl blwyddyn anodd iawn."
Meddai Jane Dodds, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru:
"Gallwn i ddim dychmygu Nadolig heb y bobl rwy'n eu caru. Rwy'n hynod o falch felly bod Gweinidog Addysg y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, yn cryfhau gwasanaethau iechyd meddwl a blaenoriaethu gadael i fyfyrwyr ddychwelyd ar gyfer y Nadolig.
"Er bod rhaid i'r flaenoriaeth o hyd fod i gadw pobl yn ddiogel a sicrhau bod neb yn cael eu gadael ar ôl, byddai'n beth da i bedair llywodraeth y Deyrnas Unedig wneud popeth y medrant er mwyn dod â llawenydd Nadoligaidd i flwyddyn anodd."