Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae Mark wedi helpu dwsinau o fusnesau lleol, a ddioddefodd o ganlyniad i gam-werthu benthyciadau a chynhyrchion ariannol eraill gan y banciau.
Gan gydweithio gydag Aelodau Seneddol eraill a grwpiau lobïo, mae Mark wedi ymladd i sicrhau bod y busnesau hynny yr effeithiwyd arnynt, yn derbyn y broses briodol i wneud yn iawn. Mae hefyd wedi gweithio i sicrhau bod llawer o fusnesau lleol wedi derbyn iawndal priodol ar gyfer y colledion ariannol a ddioddefwyd, er wrth gwrs, mae ffordd bell i fynd o hyd. Bydd Mark yn parhau gyda’r frwydr hon.
Os ydych yn etholwr sydd wedi'i heffeithio gan y mater hwn, cysylltwch â Swyddfa Mark ac fe fydd yn hapus i’ch helpu.