Mae tudalen flaen maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cynnwys pum blaenoriaeth i adeiladu economi gryfach a chymdeithas decach, gan greu cyfle i bawb yng Nghymru.
Y blaenoriaethau:
- Llwyddiant i bawb: Toriadau tecach i’r diffyg ariannol a buddsoddi i adeiladu economi sgiliau uchel, carbon isel
- Trethi teg: Torri £400 ychwanegol oddi ar eich trethi drwy godi’r trothwy di-dreth i £12,500
- Gofal iechyd o ansawdd uchel i bawb: Cynyddu adnoddau ein GIG a sicrhau lefelau staffio diogel
- Cyfle i bob plentyn: Buddsoddi yn ein hysgolion drwy ein Premiwm Disgybl
- Cymru gryfach: Sicrhau hunanlywodraeth i Gymru gyda mwy o bwerau ac ariannu teg