Dem Rhydd Cymru yn lansio ymgyrch i achub S4C

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru heddiw yn lansio eu hymgyrch i achub dyfodol S4C, ar ôl nifer o fygythiadau Torïaidd i naill ai dorri neu sgrapio ffi drwyddedu’r BBC.

Darllen mwy

Dem Rhydd Cymru yn cyhoeddi clawr maniffesto 2015

Mae tudalen flaen maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cynnwys pum blaenoriaeth i adeiladu economi gryfach a chymdeithas decach, gan greu cyfle i bawb yng Nghymru.

 

Darllen mwy

Llafur yn “benderfynol o anwybyddu democratiaeth leol” dros gyfuno gwirfoddol

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru o ddiffyg dychymyg dros gyfuno gwirfoddol cynghorau, ar ôl y newyddion bod pob un o'r tair cais am gyfuniad gwirfoddol wedi'u gwrthod.

Darllen mwy

Adeiladu cartrefi newydd, nid rhoi diwedd ar yr hawl i brynu – dyna’r ateb i'r prinder tai

Mae Peter Black AC, Gweinidog Cysgodol ar Dai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, wedi dweud bod cyhoeddiad Llywodraeth Lafur Cymru i wahardd yn llwyr yr 'Hawl i brynu' yn "diangen ac yn cymryd gordd i dorri cneuen."

Darllen mwy

Mark Williams AS yn annog gweithredu i amddiffyn ffermwyr llaeth Cymru

Mae AS Democratiaid Rhyddfrydol Cymru dros Geredigion, Mark Williams, wedi cwestiynu Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar beth mae'n gwneud i helpu diwydiant llaeth Cymru.

Darllen mwy

Cymru yn dal i lusgo y tu ôl i weddill y DU o safbwynt lleihau diweithdra

Mae'r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn lleihau ar gyfradd arafach nag yn unrhyw ranbarth arall yn y DU, yn ôl ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw.

Darllen mwy

Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys Llafur Cymru - y ffigurau gwaethaf ers dros 5 mlynedd

Mae ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos mai ffigurau aros adrannau damweiniau ac achosion brys Llywodraeth Lafur Cymru yw'r gwaethaf o’r holl gofnodion sydd ar gael hyd at a gan gynnwys Hydref 2009.

Darllen mwy

Byddai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn rhoi diwedd i 'ffarwél euraid' chwe ffigur

Byddai pecynnau ymadael chwe ffigur yn y sector cyhoeddus yn dod i ben o dan y cynigion a gyhoeddwyd heddiw gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Darllen mwy

Datgelu rhagrith rhyfeddol Plaid Cymru ar y cyflog byw a chytundebau sero-awr

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi datgelu ffigyrau sy'n dangos bod bron i 4,000 person a gyflogwyd gan gynghorau a arweinwyd gan Blaid Cymru yn derbyn cyflog yn llai na'r cyflog byw, er gwaethaf Plaid yn ysgrifennu at fudiadau yn ddiweddar i'w hannog nhw i dalu'r cyflog byw.

Darllen mwy